CLWB 200 y Gyfeillion
Ffordd ardderchog a hawdd i
chi i helpu i godi arian i hyrwyddo'r cyfleoedd corfforol, diwylliannol ac addysgiadol ar gyfer eich plentyn
chi yw CLWB 200.
Rydum yn apelio atoch chi i ymuno yn ein CLWB 200, lle mae rhif yn cael ei dynnu bob mis. £1 yn unig yw'r tanysgrifiad misol, a dosberthir rhif ar gyfer bob £1. Gallwch gael mwy nag un rhif.
Pob mis, fe fydd y pwyllgor yn tynnu un rhif a fe fydd y perchen ffodus yn ennill hanner (IE HANNER!!) o'r cyfraniadau.
Fe fydd yr hanner arall yn cael ei buddsoddi i gynorthwyo'r ysgol ac i gyllido digwyddiadau neulltuol.
Dychmygwch y gwahaniaeth i'r ysgol os bydd rhaid ail-enwi 'Clwb200' i 'Clwb500'.
Islwythwch ffurlfen tanysgrifo NAWR!!
Mae newyddion CLWB 200 yn cael ei adnewyddio'n aml. Mae ennillwr y mis yn cael ei bostio i'r tudalen yma.